Ffeministiaeth by

Ffeministiaeth Rhyddfrydol
Nod ffeministiaeth Rhyddfrydol yw mynd i’r afael ag anghydraddoldeb drwy ddefnyddio systemau a strwythurau presennol a phwyso am newidiadau cyfreithiol. Mae’r agwedd yma wedi llwyddo i gyflwyno deddfwriaethau fel y Ddeddf Cyflog Cyfartal, y Ddeddf Gwahaniaethu Rhywiol a’r Ddeddf Cydraddoldeb. Maent hefyd wedi llwyddo i gyfreithloni erthyliad, cynyddu argaeledd dulliau atal cenhedlu ar bresgripsiwn a dileu’r cymal gwahardd trais priodasol. Mae hefyd wedi mynd i’r afael â materion fel tangyflawni addysgol, dylanwadu merched i anelu yn uwch a dilyn gyrfaoedd a oedd unwaith yn cael eu hystyried yn rhai a gadwyd ar gyfer dynion a chwalu rhwystrau i addysg i ferched, yn enwedig mewn meysydd sy’n cael eu dominyddu gan ddynion.

Ffeministiaeth Marcsaidd
Mae ffeministiaeth Marcsaidd yn archwilio’r camfanteisio mae mwnywod yn ei wynebu mewn cymdeithas, o ddynion ac o gyfalafiaeth. Mae disgrifiad Margaret Benston o fenywod yn cael eu cadw allan o’r farchnad swyddi fel y gellir eu defnyddio i’r fyddin lafur wrth gefn sy’n ymgymryd â’r gwaith ar adegau o dwf economaidd a gadael i fynd ar adegau o ddirwasgiad yn amlygu’r anawsterau mae menywod yn eu hwynebu mewn cyflogaeth. Dywedodd Fran Ansley bod y ffordd mae menywod yn amsugno rhwystredigaethau gweithwyr yn dynnu sylw at y camfanteisio ar fenywod gan ddynion a chyfalafiaeth. Daw cyfraniaeth pellach gan Delphy a Leonard a awgrymodd fod y gwaith di-dâl mae menywod yn eu wneud gartref o fudd mawr i gyfalafiaeth au gwŷr. Mae ffeministiaeth Marcsaidd hefyd yn edrych ar natur patriarchaidd cyflogaeth a’r tybiaethau a wneud am allu ac ymrwymiad menywod i’w gyrfaoedd. Mae ffeministiaeth Marcsaidd yn herio’r syniad y dylai menywod aros gartref a gofalu am eu teulu. Fodd bynnag, byddai beirniaid yn awgrymu y bu newidiadau yn cyflogaeth menywod, ond byddai’r ffeministiaid Marcsaidd yn awgrymu bod y bwlch cyflog presennol a thangynrychiolaeth menywod mewn swyddi o bŵer yn awgrymu bod rhywfaint o waith i’w wneud eto.

Ffeministiaeth Radical
Dyma’r math o ffeministiaeth sydd wedi’u malu fwyaf mewn cymdeithas, yn aml yn cael eu chysylltu â stereoteipiau negyddol. Maent yn protestio mai dim ond ystumiau symbolaidd ac arwynebol yw llawer o’r datblygiadau diweddar mewn cyflogaeth, addysg a bywyd cartref gan fod gormes yn erbyn menywod dal i bydoli. Mae agweddau mwy eithafol o ffeministiaeth radical, er enghraifft goruchafiaeth menywod ac ymwaarad benywaidd sy’n hyrwyddo diffyg cyd-destun gyda dynion er mwyn creu cymdeithas sy’n rhoi anghenion menywod yn gyntaf. Mae damcaniaethwyr fel Kate Millett yn awgrymu bydd dynion yn defnyddio grym corfforol, seicolegol ac ideolegol i gadw menywod mewn sefyllfa ble mae gan ddynion y bŵer. Byddai beirniadau o ffeministiaeth radical yn awgrymu eu bod yn aml yn anwybyddu’r cynnydd sydd wedi’i wneud.